Neidio i'r prif gynnwy

Mae rhoddion elusennol wedi ariannu system uwchsain o'r radd flaenaf ar gyfer Ysbyty Glangwili

Yn y llun: Staff ICU Glangwili gyda'r system uwchsain Newydd.

 

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – wedi prynu system uwchsain o’r radd flaenaf gwerth dros £43,000 ar gyfer yr Uned Gofal Dwys (ICU) yn Ysbyty Glangwili.

Mae sgan uwchsain, a elwir weithiau yn sonogram, yn driniaeth sy'n defnyddio tonnau sain amledd uchel i greu delwedd o ran o du mewn i'r corff.

Mae'r system newydd yn cynnwys offer clinigol uwch sy'n galluogi asesiadau cyflym o gleifion, cefnogi gwneud penderfyniadau clinigol, cymorth i berfformio gweithdrefnau ymledol, a helpu i fonitro cynnydd cleifion.

Bydd y system uwchsain yn cael ei defnyddio bob dydd ar gyfer gofal cleifion a bydd hefyd yn cael ei defnyddio i hyfforddi staff ICU a datblygu eu sgiliau.

Dywedodd Sarah Carmody, Rheolwr Gwasanaeth – Gofal Critigol: “Rydym mor ddiolchgar bod rhoddion hael gan ein cymunedau lleol wedi ein galluogi i brynu’r system uwchsain newydd.

“Mae’n golygu y bydd gan ein staff gofal dwys fynediad at uwchsain symudol, amlbwrpas sy’n lleihau amser archwiliadau ac yn eu helpu i gynnal asesiadau cyflym o gleifion sy’n derbyn gofal critigol.

“Mae gan y system newydd nodweddion gwell fel y gallu i gyfathrebu a storio delweddau o fewn systemau TG presennol.

“Bydd yn gwella gofal a diagnosteg cleifion yn fawr ac yn helpu i arwain rheolaeth cleifion difrifol gwael.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: