Neidio i'r prif gynnwy

Mae rhoddion elusennol wedi ariannu sganiwr bledren gwerth dros £10,000 ar gyfer Ysbyty Bronglais

Yn y llun: staff o ward Y Banwy gyda'r sganiwr bledren.

 

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – wedi prynu sganiwr bledren gwerth dros £10,000 ar gyfer ward Y Banwy yn Ysbyty Bronglais.

Mae'r ward yn darparu gwelyau i gleifion nad oes angen iddynt fod yn yr ysbyty ond sy'n aros am becynnau gofal i allu dychwelyd adref. Mae'r sganiwr pledren yn helpu'r gwasanaeth i ddarparu asesiad a gofal amserol ac effeithlon i'r cleifion hyn.

Dywedodd Anita Wadelin, Uwch Brif Nyrs: “Rydym mor ddiolchgar bod rhoddion hael gan ein cymunedau lleol wedi ein galluogi i brynu’r sganiwr.

“Gall cleifion ar y ward brofi ataliad wrin unrhyw bryd ac mae cael ein sganiwr bledren ein hunain yn golygu y gall staff asesu cleifion cyn gynted â phosibl a gosod cathetr os oes angen.

“Gallwn nawr asesu, wneud diagnosis a thrin cleifion ar yr un diwrnod. Mae’n golygu, mewn rhai achosion, y gall cleifion wedyn gysgu gartref yn eu gwely eu hunain ac osgoi derbyniadau diangen i’r ysbyty.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: