Neidio i'r prif gynnwy

Mae rhoddion elusennol wedi ariannu peiriannau ECG gwerth £14,000 ar gyfer Ysbyty Llwynhelyg

Yn y llun: Staff Adran Achosion Brys Llwynhelyg gyda'r peiriannau ECG Newydd.

 

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – wedi prynu dau beiriant Electrocardiogram (ECG) newydd gwerth dros £14,000 ar gyfer yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Llwynhelyg.

Mae poen yn y frest yn gyflwyniad cyffredin iawn yn yr Adran Achosion Brys sy'n gweld rhwng 100 a 130 o gleifion y dydd. Mae peiriannau ECG yn darparu gwybodaeth allweddol am galon claf trwy fesur rhythm a gweithgaredd trydanol.

Bydd y peiriannau ECG ychwanegol yn helpu i sicrhau bod cleifion â phoen yn y frest yn cael asesiad cyn gynted â phosibl.

Dywedodd yr Uwch Reolwr Nyrsio Josephine Dyer: “Rydym mor ddiolchgar bod rhoddion hael gan ein cymuned leol wedi ein galluogi i brynu’r ddau beiriant ECG ar gyfer yr Adran Achosion Brys.

“Mae niferoedd uchel o gleifion yn cyflwyno gyda phoen yn y frest ac angen ECG, felly rydym yn gobeithio y bydd cael y peiriannau ychwanegol yn lleihau amseroedd aros ac yn cynnig profiad gwell i gleifion.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: "Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth hael gan ein cymunedau lleol sy'n caniatáu i ni gynnig gwasanaethau y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda. Gwerthfawrogir pob rhodd a gawn yn fawr!"

Dilynwch ni: