Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwerthiant mêl yn codi dros £800 ar gyfer uned cemo

Yn y llun uchod (Chwith i'r Dde): Helen Gorman, John Hayes, Conrad Ford a Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian.

 

Mae Vinci Facilities wedi codi £868 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Bronglais drwy werthu jariau o fêl.

Ar hyn o bryd mae gan Vinci Facilities bedwar cwch gwenyn yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth fel rhan o brosiect bioamrywiaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae mêl yn cael ei gynhyrchu a'i werthu'n lleol ar y safle ac mewn gwahanol farchnadoedd.

Dywedodd John Hayes: “Mae ein gwenynwr Conrad Ford wedi gwneud gwaith gwych o ofalu am ein ffrindiau bach hyd yn oed gyda’r tywydd mor ddrwg.

“Rydym wedi codi arian ar gyfer yr uned cemo gan fod canser wedi effeithio ar bawb sy’n ymwneud â’r prosiect a phenderfynu bod uned cemo Bronglais yn dderbynnydd gwerth chweil.

“Mae’r prosiect wedi bod yn werth chweil. Aethom ni hyd yn oed â sypiau i brif swyddfa Manceinion i'w gwerthu. Hoffem ddiolch i Mel Richardson, Jaqueline Ivell, Becky Savill, holl staff Vinci Aber a Llywodraeth Cymru ac wrth gwrs ein gwenynwr, Conrad Ford.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr i Vinci Facilities am rodd wych arall.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: