Neidio i'r prif gynnwy

Mae elusen y GIG yn cefnogi cleifion anadlol trwy ariannu dyfeisiau FeNO

Yn y llun uchod: Dyfais FeNO.

 

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ariannu dwy ddyfais FeNO i’w defnyddio ar draws y bwrdd iechyd.

Mae dyfeisiau anadlu allan ocsid nitrig ffracsiynol (FeNO) yn profi pa mor llidus yw eich llwybrau anadlu. Gall hyn helpu i wneud diagnosis o asthma a hefyd monitro ymateb i driniaeth.

Dywedodd Leah Partridge, Nyrs Clinigol Arbenigol Rhyngwyneb Asthma: “Rydym mor ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu’r dyfeisiau FeNO newydd.

“Mae'r ddyfais yn mesur faint o ocsid nitrig ffracsiynol sy'n cael ei anadlu allan yn eich anadl. Os oes gennych lefelau uwch, mae hyn yn dangos bod eich llwybrau anadlu'n llidus gan arwain at reolaeth wael o asthma. Gellir rheoli'r llid hwn gyda meddyginiaethau asthma.

“Unwaith y byddwch yn cymryd meddyginiaethau asthma, dylai eich canlyniadau ddangos lefelau is o ocsid nitrig yn eich anadl o gymharu â lefelau cyn i chi ddechrau triniaeth. Mae hyn yn arwydd bod y meddyginiaethau yn gweithio i reoli'r llid. Os na chaiff y llid ei drin, gall achosi pyliau o asthma sy'n bygwth bywyd.

“Mae prynu’r peiriannau FeNO gan gronfeydd elusennol wedi galluogi’r Tîm Nyrsys Clinigol Arbenigol Rhyngwyneb Asthma i ddarparu’r prawf hwn yn nes at gartrefi cleifion mewn lleoliadau Gofal Sylfaenol ar draws Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: