Neidio i'r prif gynnwy

Mae elusen y GIG yn ariannu soffa a stôl ecocardiograffeg gwerth dros £2,000

Yn y llun uchod: Staff o'r Uned Cardio-anadlol gyda'r gadair a'r stôl.

 

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu soffa a stôl ecocardiograffeg ar gyfer yr Uned Cardio-anadlol yn Ysbyty Glangwili.

Mae'r soffa yn helpu'r tîm i berfformio ecocardiograffeg (sganiau uwchsain y galon) ar gleifion.

Dywedodd Catrin Williams, Gwyddonydd Clinigol Arweiniol mewn Ecocardiograffeg: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi galluogi’r uned i brynu’r soffa a’r stôl ecocardiograffeg newydd.

“Mae’n soffa benodol sy’n caniatáu i gleifion fabwysiadu safle gorwedd ochrol yn ddiogel ac yn gyfforddus.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: