Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cynghrair Cyfeillion Bronglais yn cyfrannu £17,400 tuag at bwll geni a sesiynau canu

Yn y llun ar y chwith, o'r chwith i'r dde: Paige Denyer, Elusennau Iechyd Hywel Dda; Cerian Llewellyn, Bydwraig Risg a Llywodraethu; Emma Booth, Operational and Clinical Lead Midwife for Bronglais Hospital; Rhian Davies ac Elinor Powell, Cynghrair Cyfeillion Bronglais

 

Yn y llun ar y dde, o'r chwith i'r dde: Paige Denyer, Hywel Dda Health Charities; Elinor Powell and Rhian Davies, Cynghrair Cyfeillion Bronglais; Becky Pateman, Rheolwr Ward; Ann Elias, Clerc y Ward

Mae Cynghrair Cyfeillion Bronglais wedi rhoi £17,400 i ddau wasanaeth yn Ysbyty Bronglais.

Mae £13,400 wedi ei gyfrannu tuag at y gost o osod pwll geni sefydlog yn ward famolaeth Gwenllian. Bydd y pwll yn creu amgylchedd ymlaciol a lleddfol ac yn hyrwyddo profiadau geni cadarnhaol i rieni.

Mae £4,000 pellach wedi'i roi i ward iechyd meddwl oedolion hŷn Enlli tuag at sesiynau canu a symud rhyngweithiol. Bydd y sesiynau yn lleihau unigrwydd, diflastod ac arwahanrwydd i gleifion yn ogystal â hybu ysgogiad gwybyddol a lles.

Mae Cynghrair Cyfeillion Bronglais yn elusen sydd wedi ymrwymo i godi arian i gefnogi Ysbyty Bronglais a gwasanaethau iechyd cymunedol lleol.

Dywedodd Elinor Powell, Cadeirydd Cynghrair Cyfeillion Bronglais: “Rydym wrth ein bodd yn gallu cyfrannu at yr achosion gwych hyn. Mae'n hyfryd i ni wneud rhoddion sy'n dod â llawenydd i fywydau pobl, yn bennaf oll na genedigaeth a chanu.

“Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’n haelodau Cynghrair Cyfeillion Bronglais a phawb sydd wedi rhoi yn ddiweddar. Rhaid diolch yn arbennig i gynulleidfa Canu Nadolig Sgarmes yn y Neuadd Fawr fis Rhagfyr diwethaf a gododd bron i £10,000 trwy werthu tocynnau, raffl a rhoddion ar y noson. Mae tocynnau eisoes ar werth ar gyfer digwyddiad Canu mis Rhagfyr eleni ac fel bob amser, bydd pob ceiniog a godir yn mynd i Cynghrair Cyfeillion Bronglais.”

Dywedodd Dawn Jones, Pennaeth Nyrsio’r Ysbyty: “Rydym am ddiolch yn ddiffuant i Gynghrair Cyfeillion Bronglais am eu rhoddion hael ac am eu cefnogaeth barhaus i gleifion a staff.

“Bydd y rhoddion hyn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i brofiad teuluoedd sy’n dod â bywyd newydd i’r byd, ac i rai o’n cleifion hynaf ac eiddil a all elwa ar lawenydd cerddoriaeth a symudiad.”

Dilynwch ni: