Uchod: Eleanor James yn cyflwyno siec i staff ward Bryngolau.
Mae’r godwr arian Eleanor James wedi rhoi hwb i Apêl Gerddi Ysbyty Tywysog Philip drwy gyfrannu swm gwych o £5,000 i’r achos ar ran y grŵp Air Raise.
Bwriad yr Apêl yw codi £100,000 i greu gerddi therapiwtig newydd i gleifion ar wardiau Bryngolau a Mynydd Mawr.
Yn ogystal â’r rhodd o £5,000 i’r Apêl, rhoddodd Eleanor £5,688.47 hefyd i Gronfa Anadlol Ysbyty Tywysog Philip.
Cafodd y grŵp Air Raise ei sefydlu 25 mlynedd yn ôl gan y diweddar Diane James a Rona Williams.
Roedd asthma ar y ddwy ac roeddent am roi rhywbeth yn ôl i werthfawrogi'r gofal a'r cymorth a gawsant gan y tîm Anadlol yn Ysbyty Tywysog Philip.
Ymunodd Eleanor â nhw fel cefnogwr Air Raise a chymerodd yr awenau fel trefnydd y grŵp pan fu farw Diane a Rona.
Derbyniodd Air Raise roddion o eitemau gan y gymuned leol gan gynnwys llyfrau, gemwaith, eitemau wedi’u gwau/crosio, ac ati, ac roedd ganddynt stondin yn nerbynfa’r ysbyty lle gwerthwyd yr eitemau i gleifion, ymwelwyr a staff.
Dros y blynyddoedd gwnaed llawer o roddion gan y grŵp i’r tîm Anadlol.
Yn anffodus, daeth Covid â’r stondin i ben a phenderfynodd Eleanor ymddeol a chau’r grŵp Air Raise.
Dywedodd Eleanor: “Rwyf wedi mwynhau fy mlynyddoedd lawer o fod yn rhan o Air Raise yn fawr iawn, mae wedi rhoi boddhad i gefnogi’r ysbyty lleol a chwrdd â chymaint o bobl hyfryd ar hyd y ffordd.
“Hoffwn ddiolch i drefnwyr gwreiddiol Air Raise, y diweddar Diane James a Rona Williams, ynghyd â’u cefnogwr, y ddiweddar Sheila Thomas, am bopeth a wnaethant.”
Dywedodd Daniel Jones, Rheolwr Ward Bryngolau: “Rydym mor ddiolchgar am y rhodd hon a fydd yn gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol i gleifion a staff wardiau Bryngolau a Mynydd Mawr.
“Diolch yn ddiffuant i Eleanor a’r grŵp Air Raise am eu cefnogaeth anhygoel i’r ysbyty dros y chwarter canrif diwethaf.”