Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu gweithdy i gefnogi teuluoedd sydd wedi colli babi ar gyfer staff mamolaeth yn Ysbyty Glangwili.
Dywedodd Anwen Evans, Bydwraig Profedigaeth: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod rhoddion elusennol wedi galluogi ein staff i gymryd rhan yn y gweithdy.
“Mae staff o fewn gwasanaethau mamolaeth yn darparu gofal i rieni sy’n profi colli babi. Roedd y gweithdy yn gyfle gwych i adeiladu ar yr hyder, y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddarparu gofal o ansawdd uchel i’r rhai sydd wedi profi marwolaeth eu babi.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”