Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp seiclo yn codi £10,000 ar gyfer ward plant

Yn y llun uchod: Bethan Hughes, Uwch Brif Nyrs, gyda Seiclwyr Cemaes.

 

Cymerodd Seiclwyr Cemaes sialens seiclo 100 milltir a chodwyd £10,000 i Ward Angharad yn Ysbyty Bronglais.

Seiclodd Colin Harding, Matt Robson, Tanya Sherrell, Wayne Tattersall, Vanessa Simone Reed ac Adrian Scott dros 100 milltir o Wolverhampton i Aberdyfi ar 21 Mehefin 2024 er budd ward y plant.

Dywedodd Colin Harding, aelod o Seiclwyr Cemaes: “Treuliodd Welan, fy mab, naw noson yn Ward Angharad ac yna wyth noson arall yn Ysbyty Plant Caerdydd nôl ym mis Mawrth 2024 yn dilyn ei bendics yn byrstio.

“Gwnaeth y gofal a roddwyd ac ymroddiad y staff ar Ward Angharad argraff fawr ar fy ngwraig a minnau. Gwnaeth y staff i Welan deimlo'n gartrefol ac roedd y gofal yn wirioneddol anhygoel. Roedden ni fel teulu eisiau dweud diolch.

“Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu, i’n teuluoedd, ac rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth gymunedol Bro Dyfi a Dyffryn Dyfi a thrigolion Cemaes a anogodd y seiclwyr yn ystod y daith seiclo trwy ein pentref Cemaes.

“Hoffem hefyd ddiolch i Simon Davies gan mai ef oedd gyrrwr cymorth y seiclwyr yn ystod y llwybr seiclo a’i fod ar dap gyda fflapjacs, dŵr, gel lleddfu poen a chitiau trwsio teiars.”

Dywedodd Bethan Hughes, Uwch Brif Nyrs: “Diolch yn fawr iawn i Seiclwyr Cemaes am godi arian i Ward Angharad, roedd hwn yn ddigwyddiad codi arian rhagorol sydd wedi codi £10,000.

“Hoffwn achub ar y cyfle fel Rheolwr Ward i ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y gweithgaredd codi arian. Diolch am roi Ward Angharad yng nghanol y digwyddiad hwn. Fel tîm, rydym wedi ein syfrdanu’n fawr gan y swm o arian a godwyd. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r plant, y bobl ifanc a'u teuluoedd yr ydym yn gofalu amdanynt."

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr i Seiclwyr Cemaes am godi swm mor anhygoel i Ward Angharad.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: