Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp o ffrindiau yn gwisgo fel conau traffig yn ystod taith gerdded noddedig

Yn y llun uchod: Rhai o'r rhai a gododd arian gyda staff yr uned.

 

Gwisgodd grŵp o 19 o ffrindiau fel conau traffig, a cherdded o Ben-bre i Lanelli heibio 25 o dafarndai a chodi £1,350 ar gyfer yr Uned Gofal y Fron yn Ysbyty Tywysog Philip.

Dywedodd Susan Partidge-Leach, a drefnodd y daith gerdded noddedig: “Roedd gennym ni fws o’r Coffee Pot yn Llanelli i’r dafarn gyntaf ym Mhen-bre. Roedd gen i chwiban hefyd felly ar hyd y ffordd gallem ni ganu’r gân Floor is Lava. Pan fyddai’r chwiban yn cael ei chwythu, doedd neb yn cael cael eu traed ar y llawr.

“Aethom o dafarn i dafarn yn cerdded ac yn dawnsio a chawsom lawer o hwyl. Dechreuon ni am 11:30am ddydd Sul a gorffen am 1:30am ddydd Llun.

“Penderfynon ni godi arian ar gyfer canser y fron a chanser y pancreas. Canser y fron oherwydd bod ffrind da i ni, Viv Jones, wedi cael canser y fron yn ddiweddar ac wedi cael triniaeth yn Ysbyty Tywysog Philip. A chanser y pancreas oherwydd fy mod i’n cadw Clwb Rygbi Llangennech ac mae nifer y bobl yn yr ardal honno yn unig sydd wedi marw o ganser y pancreas yn anghredadwy.

“Hoffwn ddiolch i’m ffrindiau Viv a Deb am eu cefnogaeth drwy gydol y dydd a phawb a roddodd. Stopiodd pobl hyd yn oed eu ceir i roi. Roedden ni i gyd wedi ein cyffwrdd cymaint gan bawb a’u haelioni.”

Dywedodd Dr Anita Huws, Arbenigwr Cysylltiol Gofal y Fron, “Ar ran y tîm yma yn Uned Gofal y Fron yn Ysbyty Tywysog Philip, hoffem ddiolch i Susan a’i holl deulu a ffrindiau am drefnu’r daith gerdded hwyl hon wrth godi’r rhodd wych hon. Rydym yn hynod ddiolchgar i chi gyd.”

Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn ddiolchgar iawn am bob rhodd a dderbyniwn.”

Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaeth a staff.

Dilynwch ni: