Yn y llun uchod: Ceri Bevan, Nyrs Staff; Bethan Hughes, Prif Nyrs Andy Evans, Chunky Monkeys a Sian Davies, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd.
Aeth grŵp beiciau modur, y Stourport Chunky Monkeys, trwy Aberystwyth a chodi £1,585 ar gyfer Ward Angharad, ward y plant yn Ysbyty Bronglais.
Teithiodd y grŵp dros dridiau o Stourport i'r Prom yn Aberystwyth ar feiciau modur.
Dywedodd Andy Evans, aelod o'r Stourport Chunky Monkeys: “Mae'r Stourport Chunky Monkeys yn grŵp o tua 50 o ddynion sy'n reidio beiciau mwnci o dref Stourport on Severn.
“Eleni, penderfynon ni godi arian ar gyfer ward y plant yn Ysbyty Bronglais. Rydym wedi codi arian o'r blaen ar gyfer ward canser y fron, RNLI Aberystwyth a llawer o elusennau eraill yng Nghymru. Rydym yn bob yn ail bob blwyddyn gydag elusen o'n tref enedigol a'n hardal leol ac elusen o amgylch Aberystwyth.
“Hoffem ddiolch i bawb sy'n gwneud i ni deimlo'n gartrefol ar ein taith flynyddol ac i bawb sydd wedi ein cefnogi gyda'u haelioni. Hoffem hefyd ddiolch i Westy'r Four Seasons am letya cymaint ohonom bob blwyddyn.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’r Stourport Chunky Monkeys am wneud yr ymdrech anhygoel i reidio o Stourport i Aberystwyth i godi arian ar gyfer ein helusen.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”