Neidio i'r prif gynnwy

Grant yn ariannu pecynnau lles i gleifion canser

Yn y llun uchod: Staff gyda'r pecynnau lles.

 

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ymuno â Chymorth Canser Macmillan i ddosbarthu pecynnau lles i gleifion sy’n cael triniaeth gwrth-ganser ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Cefnogodd Macmillan y fenter trwy ddarparu grant o £2,000 tuag at y pecynnau lles. Yna fe wnaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda gasglu a dosbarthu'r pecynnau i wasanaethau canser Hywel Dda.

Mae’r pecynnau’n cynnwys hufen llaw, balm gwefus, pecyn gwres llaw, het wlân, cyllyll a ffyrc pren, melysion â blas, pad ysgrifennu a beiro, potel ddŵr, bagiau te llysieuol a band gwrth-gyfog.

Dywedodd Patricia Rees, Nyrs Glinigol Arbenigol Brysbennu Canser yr Ysgyfaint: “Defnyddiwyd cyllid grant Macmillan i ddarparu amrywiaeth o eitemau defnyddiol i gleifion sy’n cael triniaeth ar gyfer diagnosis canser.

“Gall y sesiwn cemotherapi neu wrth-ganser cyntaf fod yn frawychus i gleifion, pan fyddant newydd gael diagnosis o ganser ac yn gallu wynebu wythnosau a misoedd lawer o driniaeth a fydd yn gwneud iddynt deimlo’n sâl. Ni fydd llawer o gleifion yn gwybod pa eitemau sydd eu hangen arnynt.

“Gobeithio y bydd hyn yn cael ei gydnabod fel arwydd gwerthfawr iawn o gefnogaeth i gleifion gan Elusennau Iechyd Hywel Dda a Macmillan ar adeg anodd.”

Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Rydym yn falch iawn o fod wedi bod yn rhan o’r cynllun hwn gan wybod y bydd y pecynnau llesiant hyn yn helpu cleifion yn ystod cyfnod anodd.

“Mae’r pecynnau hyn yn gyfle gwych i ddangos cefnogaeth i bobl yn ein cymunedau sy’n mynd trwy driniaeth canser.”

Dilynwch ni: