Neidio i'r prif gynnwy

Gosod mainc yng Nglangwili er cof am ymgynghorydd a adawodd waddol rhyfeddol i'r GIG

Yn y llun, o'r chwith i'r dde: Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda; Ben Perkins; Gina Mcnamara; Dr Lucinda Perkins; Dr Eiry Edmunds - Cardiolegydd Ymgynghorol a Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol (Gwasanaethau Acíwt)

 

Mae mainc wedi'i gosod yn Ysbyty Glangwili er cof am Dr Esther Harrison, anesthetydd ymgynghorol yn yr ysbyty o'r 1960au i'r 1990au. Gadawodd Dr Harrison waddol o £1.3 miliwn i'w GIG lleol a fydd o fudd i gleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff am flynyddoedd lawer i ddod.

Ganwyd Dr Harrison yng Nghaerdydd ym 1930 ac roedd yn un o ddau o blant, gyda chwaer iau Sylvie. Astudiodd y ddwy feddygaeth yng Nghaerdydd, a daeth Dr Harrison yn anesthetydd.

Arhosodd Dr Harrison yng Nghaerdydd tan y 1960au cyn gweithio am gyfnod byr yn Lloegr ac yna symud ym 1967 i Gaerfyrddin lle cafodd swydd fel anesthetydd yn Ysbyty Glangwili.

Yn fuan daeth yn anesthetydd ymgynghorol i Glangwili, swydd a ddaliodd tan iddi ymddeol yn y 1990au.

Y tu allan i'r gwaith, roedd Dr Harrison yn 'Modryb Nook' caredig iawn i'w nithoedd a'i neiaint. Roedd Dr Harrison hefyd wrth ei bodd â'i chathod, yn enwedig ei chath Siamese Jasper. Ei diddordebau brwd oedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a phensaernïaeth cestyll lleol.

Bydd gwaddol Dr Harrison yn cael ei ddefnyddio i ddarparu eitemau a gweithgareddau sydd y tu hwnt i wariant craidd y GIG. Bydd hyn yn cynnwys creu a gwella mannau gorffwys staff i hyrwyddo lles; gweithgareddau celfyddydau ac iechyd i gleifion; ac offer efelychu i wella hyfforddiant staff.

Dywedodd nai Dr Harrison, Ben Perkins: “Rydym wrth ein bodd bod y fainc wedi’i gosod yng Nglangwili er cof am Anti Nook.

“Bu Anti Nook yn byw bywyd hir a hapus, gan fyw yn union fel yr oedd hi eisiau. Diolch i’w hetifeddiaeth, bydd ei chyfraniad at iechyd a lles ein cymunedau lleol yn parhau.”

Dywedodd yr Athro Phil Kloer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Ar ran y bwrdd iechyd, hoffwn ddweud pa mor ddiolchgar ydym ni i Dr Harrison am ei rhodd hynod hael. Bydd yr etifeddiaeth hon o fudd i filoedd o gleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff.

“Mae’n briodol y bydd rhywun a neilltuodd ei bywyd i ddarparu gofal rhagorol yn parhau i gael effaith mor gadarnhaol ar brofiad pobl o’r GIG.”

Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Boed yn fawr neu’n fach, mae rhoddion mewn ewyllysiau yn cael effaith gadarnhaol barhaol ac yn cyffwrdd â bywydau llawer.

“Rydym mor ddiolchgar i Dr Harrison am ei rhodd a fydd yn ein galluogi i wella profiadau cymaint o gleifion a staff.”

Am ragor o wybodaeth am adael rhodd i’ch elusen GIG leol, ewch i: https://elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/cefnogwch-ni/gadewch-ddiolch-am-byth-ich-elusen-gig/

Dilynwch ni: