Yn y llun uchod: Ken Woodhouse, Ymgynghorydd ac Emma Callan, Uwch Brif Nyrs gyda Zac a Nick.
Cwblhaodd Zac Davies a’i ewythr, Nick Davies, Her Genedlaethol y Tri Chopa a chodwyd £1,890 ar gyfer Ward 10 yn Ysbyty Llwynhelyg, sy’n darparu gofal a thriniaeth i gleifion oncoleg a haematoleg, a’r rhai ag anghenion gofal lliniarol cymhleth.
Ymgymerodd Zac a Nick â’r her ar 14 Mehefin 2025 i ddiolch am y gofal a gafodd llys-dad a thaid Zac ar Ward 10.
Dywedodd Zac: “O’r dechrau, roeddem yn gwybod faint o her anodd fyddai hi. Cwblhawyd y tri chopa ar tua 30 munud o gwsg a cherdded trwy dywydd erchyll drwy’r nos.
“Ar y cyfan, roeddem mor hapus i ddod dros y lein mewn llai na 24 awr. Mae’r ddau ohonom wrth ein bodd i fod wedi codi swm teilwng o arian ar gyfer elusen ac ysbyty sydd mor agos at ein calonnau. Mae’r staff ar Ward 10 yn ofalgar iawn ac wedi darparu’r gefnogaeth fwyaf yn ystod cyfnod anodd a oedd yn ein hwynebu fel teulu.
Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Diolch yn fawr iawn i Zac a Nick am gwblhau Her Genedlaethol y Tri Chopa. Rydym yn hynod ddiolchgar am eich haelioni.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.