Neidio i'r prif gynnwy

Elusen yn ariannu ystafell staff newydd ar gyfer staff fferylliaeth Ysbyty Bronglais

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu helpu i ariannu ystafell staff newydd ar gyfer yr adran fferylliaeth yn Ysbyty Bronglais.

Mae elusen y GIG wedi helpu i drawsnewid hen storfa yn ystafell staff newydd sbon ar gyfer staff y fferyllfa.

Dywedodd Donna Robson, Rheolwr Safle Fferyllfa: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi ein helpu i greu ystafell orffwys newydd i staff.

“Bydd yr ystafell yn darparu lle i fwy o staff gael seibiant, mewn amgylchedd a fydd yn cefnogi lles staff.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: