Neidio i'r prif gynnwy

Elusen yn ariannu gwaith celf a phlanhigion ar gyfer Hyb Llesiant Bro Myrddin

Diolch i roddion hael mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu prynu gwaith celf yn darlunio golygfeydd a phlanhigion lleol ar gyfer Hyb Llesiant newydd Bro Myrddin yn Nhre Ioan, Sir Gaerfyrddin.

Mae 17 darn o waith celf o'r ardaloedd cyfagos a phlanhigion addurniadol wedi'u hariannu ar gyfer yr hyb.

Yr ganolfan yw canolbwynt argyfwng iechyd meddwl cyntaf Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc sydd angen cymorth brys ac mae ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Mae’n darparu darpariaeth iechyd meddwl bwrpasol 24 awr y dydd i blant a phobl ifanc mewn amgylchedd therapiwtig ar adeg pan fo’i angen fwyaf arnynt. Mae'n golygu bod gan blant a phobl ifanc sy'n wynebu argyfwng le diogel sy'n atal derbyniadau gofidus a diangen i wardiau damweiniau ac achosion brys ac iechyd meddwl.

Mae elusen y GIG hefyd wedi ariannu consol X-Box, consol PlayStation, rheolyddion, gorsafoedd docio a sawl gêm yn ddiweddar.

Dywedodd Elaine Wade, Rheolwr Busnes: “Rydym yn hynod ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi caniatáu i ni brynu’r darnau o waith celf a phlanhigion ar gyfer yr hyb.

“Bydd y gwaith celf yn sicrhau bod yr adeilad yn fwy deniadol ac yn ychwanegu lliw a diddordeb i dynnu’r noethni oddi ar y waliau i sicrhau bod y bobl ifanc a’r staff yn teimlo’n gyfforddus.

“Bydd y planhigion yn gwneud i’r adeilad deimlo’n fwy cartrefol a’r gobaith yw y bydd yn sicrhau bod cleifion yn ymlacio ac yn gallu siarad â staff am bryderon y maent yn eu profi.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: