Neidio i'r prif gynnwy

Elusen yn ariannu cadeiriau ystafell egwyl newydd ar gyfer staff ar ward y plant

Yn y llun uchod: Paul Harries (Arbenigwr Chwarae Iechyd) ac Eleri Davies (Nyrs Feithrin) yn eistedd yn y cadeiriau newydd.

 

Diolch i roddion hael gan y gymuned, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ariannu cadeiriau newydd cyfforddus ar gyfer ystafell egwyl y staff yn Ward Angharad, ward y plant, yn Ysbyty Bronglais.

Dywedodd Paul Harries, Arbenigwr Chwarae Iechyd: “Rydym bob amser yn ddiolchgar am y rhoddion hael iawn a gawn gan y gymuned leol gan eu bod yn ein galluogi ni, trwy Elusennau Iechyd Hywel Dda, i wella ymhellach y gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu i gleifion a theuluoedd, yn ogystal â’r gefnogaeth a ddarparwn i’n staff.

“Mae’r cadeiriau newydd hyn yn cael eu defnyddio gan ein staff yn ystod egwyliau a throsglwyddiadau ac yn ein galluogi i gefnogi ein staff trwy ddarparu mannau addas iddynt gymryd egwyl i ffwrdd o’r ward.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: