Neidio i'r prif gynnwy

Elusen yn ariannu adnewyddu gerddi Ysbyty Bronglais

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu gwaith tirlunio’r ardd yn Uned Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn Ysbyty Bronglais.

Talodd arian elusen y GIG i dirlunwyr greu man hygyrch i gleifion ei fwynhau gyda'u hanwyliaid.

Dywedodd Beccy Pateman, Rheolwr y Ward: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i dirlunio gardd Ward Enlli.

“Bydd ein cleifion nawr yn gallu mwynhau gofod diogel a llawen. Mae’r ardd ychydig oddi ar lolfa’r gofalwyr ac yn y gorffennol mae gofalwyr wedi gallu dod â chŵn i mewn i ymweld â’u hanwyliaid a gallwn nawr ddarparu ar gyfer hynny eto.

“Mae yna ddigonedd o fanteision y mae gerddi yn eu cynnig i gleifion gan gynnwys golau haul uniongyrchol sy’n cynyddu dwysedd esgyrn, cwsg a hwyliau; lefelau is o gynnwrf ac ymddygiad ymosodol; llai o unigedd; mwy o weithgarwch corfforol a mwy o ryngweithio cymdeithasol.

“Bydd yr ardd hefyd yn dod yn lle i’n staff ei fwynhau yn ystod eu hamser egwyl.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: