Neidio i'r prif gynnwy

Elusen y GIG yn prynu 10 monitor i fesur cyfradd a rhythm y galon

Eclipse Pro Extended Holter Recorder

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ariannu 10 Recordydd Holter Estynedig Eclipse Pro gwerth dros £8,300 i'w defnyddio yn yr Adran Cardio-Anadlol yn Ysbyty Tywysog Philip.

Mae monitorau Holter symudol yn ddyfeisiau meddygol bach, cryno sy'n caniatáu asesu cyfradd curiad calon a rhythm (ECG) claf am gyfnod parhaus o amser o fewn neu y tu allan i amgylchedd yr ysbyty.

Dywedodd Llinos Millard, Rheolwr Gwyddor Gofal Iechyd Cardiaidd ac Anadlol: “Rydym mor ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu 10 monitor Holter symudol newydd.

“Rydym yn gallu cynnig monitro ECG o ansawdd uchel gyda nodweddion diagnostig uwch, sy'n cyfrannu at ddarparu gwasanaeth adnabod arrhythmias effeithiol ac effeithlon yn Ysbyty Tywysog Philip.

“Gall ansawdd uwch y data a gesglir sicrhau cywirdeb gwell wrth ddadansoddi cofnod y claf, gan ein galluogi i ddarparu cynllun triniaeth mwy trylwyr, amserol a chywir i'r claf. Mae'r monitorau newydd hyn yn darparu galluoedd monitro estynedig, gan ganiatáu asesiad cardiaidd cynhwysfawr dros gyfnodau hirach.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: