Neidio i'r prif gynnwy

Elusen y GIG yn cefnogi cleifion canser y pen a'r gwddf

Yn y llun uchod: Cleifion yn ystod y grwpiau cymorth.

 

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi cefnogi Gwasanaeth Canser y Pen a'r Gwddf drwy ariannu darpariaeth grwpiau cymorth wyneb yn wyneb i gleifion.

Mae rhoddion hael gan gleifion Canser y Pen a'r Gwddf i elusen y GIG wedi galluogi Tîm Canser y Pen a'r Gwddf i barhau â grwpiau cymorth wyneb yn wyneb i'w cleifion mewn amgylchedd diogel yn hytrach nag yn rhithiol.

Mae cleifion wedi cymryd rhan mewn grwpiau cymorth yng Nghlwb Bowlio Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Dywedodd Mikhaela Jones, Gweithiwr Cymorth Canser y Pen a'r Gwddf Macmillan: "Rydym mor ddiolchgar bod rhoddion gan ein cleifion a'u teuluoedd wedi helpu i gefnogi costau ein grwpiau cymorth.

“Mae ein cleifion wedi dweud bod y grwpiau cymorth wedi rhoi hwb enfawr i'w lles emosiynol a meddyliol. Mae'r adborth gan aelodau'r grŵp am ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn gadarnhaol iawn ac yn nodi'r grwpiau hyn fel rhan ganolog o'u proses adferiad ar ôl triniaeth canser.

“Mae rhoddion i Wasanaeth Canser y Pen a'r Gwddf yn galluogi darpariaeth barhaus o gymorth i gleifion canser y pen a'r gwddf. Mae'n ein galluogi i'w cynorthwyo nhw a'u teuluoedd cyn ac ar ôl triniaeth, yn ystod eu hadferiad/adsefydlu hirdymor a darparu cymorth i'n cleifion lliniarol.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: