Neidio i'r prif gynnwy

Elusen y GIG yn cefnogi cleifion canser y colon a'r rhefr

Yn y llun uchod: Cleifion y colon a'r rhefr yn ystod y daith gerdded.

 

Trefnodd y Gwasanaeth Colorectal ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddiwrnod lles ar gyfer Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn, diolch i Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Diolch i roddion caredig i'r gwasanaeth colon a rhefr, roedd cleifion a staff yn gallu mynychu Canolfan Gwlyptir Llanelli ar gyfer y digwyddiad.

Ariannodd yr elusen GIG fynediad, llogi ystafell yn y lleoliad a lluniaeth i gleifion a'u teuluoedd.

Dywedodd Nerys Thomas, Nyrs Arbenigol y Colon a Rhefr: “Ebrill oedd Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn a phob blwyddyn fel adran, rydym yn trefnu diwrnod lles i gleifion hen a newydd fynychu gyda'u teuluoedd.

“Mae ganddyn nhw'r cyfle i gael sgwrs rhyngddynt eu hunain hefyd a dal i fyny â'r tîm nyrsio colon a rhefr. Ar ôl y daith gerdded, rydym i gyd yn cwrdd ac yn cael paned a chacen.

“Mae hwn yn ddigwyddiad hyrwyddo iechyd i helpu ein cleifion trwy eu taith canser. Mae'n rhoi'r cyfle iddyn nhw gwrdd ag eraill yn yr un sefyllfa ac yn caniatáu inni eu cyfeirio at wasanaethau cymorth eraill o fewn Hywel Dda.

“Hoffwn ddiolch i Elusennau Iechyd Hywel Dda am ariannu'r digwyddiad a phawb a ddaeth draw a chefnogi'r digwyddiad. Codom dros £500 a fydd yn mynd tuag at offer a chefnogi ein grwpiau cymorth cleifion.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: