Neidio i'r prif gynnwy

Elusen y GIG yn ariannu teganau therapiwtig, llyfrau a gemau ar gyfer gwasanaeth iechyd meddwl

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu teganau therapiwtig, llyfrau a gemau ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a’r Glasoed (SCAMHS), sydd wedi’i leoli yn Nhŷ Helyg.

Mae SCAMHS yn darparu gofal a chymorth i bobl ifanc hyd at 18 oed.

Mae elusen y GIG wedi ariannu eitemau fel gemau bwrdd, eitemau gwisg ffansi, ffigurau, teganau pren a chelf a chrefft.

Dywedodd Tracey-Lee Davies, Nyrs Arweiniol: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu’r teganau, llyfrau a gemau gwych hyn ar gyfer y SCAMHS yn Nhŷ Helyg.

“Gwasanaeth yn y gymuned yw SCAMHS sy’n darparu asesiad iechyd meddwl a/neu ymyriadau therapiwtig i blant, y glasoed, a’u teuluoedd neu ofalwyr. Ein nod yn SCAMHS yn Nhŷ Helyg yw gwella iechyd meddwl a lles seicolegol ac emosiynol plant a phobl ifanc fel y gallant gyflawni eu llawn botensial yn y byd. Rydym yn gweithio gydag ystod o anawsterau iechyd meddwl, salwch meddwl, a chymhlethdod.

“Mae’r teganau therapiwtig newydd wedi bod o fudd mawr i’r plant mewn therapi a’r therapyddion eu hunain. Maent yn gwneud yr adeilad yn fwy siriol a chroesawgar ac yn lleihau pryderon teuluoedd a phlant yn sylweddol gan fod y lle bellach yn olau, yn gartrefol ac yn amgylchedd cyfforddus iddynt deimlo’n ddiogel ynddo.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: