Neidio i'r prif gynnwy

Elusen y GIG yn ariannu dodrefn newydd ar gyfer ystafell deulu yn ward y plant

Yn y llun uchod (o'r chwith i'r dde): Enfys Davies a Bethan Hughes, Uwch Brif Nyrs.

 

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ariannu seddi newydd gwerth dros £2,000 ar gyfer ystafell y teulu yn Ward Angharad, ward y plant yn Ysbyty Bronglais.

Bydd y dodrefn newydd yn sicrhau bod rhieni ac aelodau'r teulu yn gyfforddus yn ystod eu harhosiad ar Ward Angharad.

Dywedodd Bethan Hughes, Uwch Brif Nyrs: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi caniatáu i ni brynu’r seddi newydd ar gyfer ein hystafell deulu.

“Bydd y dodrefn newydd yn gwella’r cyfleusterau rydyn ni’n eu darparu i gleifion ac aelodau o’u teuluoedd yn ogystal ag amgylchedd a phrofiad y ward.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: