Yn y llun uchod: Sarah Cadell, Therapydd Galwedigaethol.
Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu cwrs Cymdeithas Prydain ar gyfer Atal ac Adsefydlu Cardiofasgwlaidd (BACPR) ar gyfer y Therapydd Galwedigaethol Sarah Cadell.
Mae'r BACPR yn cefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol wrth ddatblygu, cyflwyno ac asesu rhaglenni atal ac adsefydlu unigol sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r rhain yn cefnogi unigolion â Chlefyd Cardiofasgwlaidd (CVD) sefydledig a'r rhai â ffactorau risg CVD sylweddol.
Dywedodd Sarah: “Rwy'n hynod ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi caniatáu i mi gymryd rhan yn y cwrs BACPR.
“Mae'r hyfforddiant hwn wedi cynyddu fy ngwybodaeth am gyflyrau cardiaidd a'r math o ymarfer corff a fyddai'n hyrwyddo adferiad a chynnal a chadw ar ôl digwyddiad cardiaidd. Rwyf bellach yn gallu defnyddio fy sgiliau'n fwy effeithiol i gefnogi nyrsys i ddarparu gofal cleifion.
“Mae'r cymhwyster hwn wedi fy ngalluogi i gymryd rhan weithredol wrth gyflwyno dosbarthiadau adsefydlu cardiaidd. Rwyf wedi gallu codi ymwybyddiaeth o therapi galwedigaethol, cynhyrchu atgyfeiriadau ac ymestyn cyrhaeddiad ac effaith gwasanaethau therapi galwedigaethol i drigolion Sir Benfro.
“Ers mynychu'r cwrs, rwyf hefyd wedi rhoi cyflwyniad am y prif bwyntiau a oedd yn berthnasol i'm cydweithwyr Timau Amlddisgyblaethol (MDT) sy'n gweithio o fewn Adsefydlu Ysgyfeiniol (PR), gan fod y wybodaeth a gefais yn drosglwyddadwy ar draws y ddau arbenigedd. Rydym yn edrych i ymgorffori rhywfaint o'r dysgu gyda chleifion cardiaidd yn ein cyrsiau PR.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”