Neidio i'r prif gynnwy

Elusen y GIG yn ariannu bagiau newydd gwerth dros £15,000 i nyrsys cymunedol yn Sir Gaerfyrddin

Yn y llun: Aelodau o'r tîm nyrsys cymunedol gyda'r bagiau Newydd.

 

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Hywel Dda – wedi darparu dros £15,000 i brynu bagiau gofal cartref i nyrsys cymunedol ledled Sir Gaerfyrddin.

Mae'r bagiau ymarferol o ansawdd uchel yn darparu ffordd broffesiynol a chyfleus i nyrsys cymunedol gario eitemau allweddol megis offer, gorchuddion, samplau a chofnodion sy'n hanfodol ar gyfer gofal a thriniaeth. Er enghraifft, mae'r bagiau'n cynnwys bag oeri integredig sy'n galluogi samplau a meddyginiaeth i gael eu cadw ar dymheredd cyson.

Dywedodd Rebecca George, Nyrs Arweiniol Clinigol Cymunedol: “Rydym mor ddiolchgar bod rhoddion gan y gymuned wedi ein galluogi i brynu’r 255 o fagiau gofal cartref ar gyfer ein nyrsys cymunedol yn Sir Gaerfyrddin sy’n ymgymryd ag ymyriadau mewn lleoliad preswyl.

“Bydd y bagiau’n help mawr i’r tîm gyflawni eu rolau mewn modd mwy trefnus a fydd yn hybu morâl y staff ac yn eu helpu i deimlo balchder yn eu gwaith.

“Mae’r bagiau’n arf gwych i staff nyrsio sy’n treulio’r rhan fwyaf o’r diwrnod gwaith allan yn y gymuned a bydd yn eu helpu i ddarparu eu gofal gwych hyd yn oed yn fwy effeithlon.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: