Neidio i'r prif gynnwy

Eitemau gwerth dros £300 wedi'u prynu ar gyfer ward plant Glangwili

Yn y llun uchod (o'r chwith i'r dde): Rachel Griffiths, Cynorthwyydd Chwarae, a Dani Andrews, Arbenigwr Chwarae.

 

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu darparu offer a gemau gwerth dros £300 i Ward Cilgerran yn Ysbyty Glangwili.

Ariannodd elusen y GIG fracedi teledu, teclynnau teledu, casys Nintendo Switch a gemau Nintendo gan gynnwys FIFA, Chocobo a Minecraft Dungeons.

Dywedodd Karen Thomas, Pennaeth Chwarae Therapiwtig: “Rydym mor ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi caniatáu i ni brynu mwy o eitemau ar gyfer Ward Cilgerran.

“Bydd yr eitemau newydd yn helpu’r tîm chwarae therapiwtig i weithio’n fwy effeithiol a chanolbwyntio eu hamser ar y plant a’r bobl ifanc yn ein gofal.

“Mae gallu chwarae tra yn yr ysbyty yn golygu y gall y plant a’r bobl ifanc barhau ag agwedd o’u bywyd normal. Mae celf a chrefft yn helpu wrth iddynt fynd trwy driniaethau a gweithdrefnau yn yr ysbyty, gan leihau effeithiau ynysu, straen a phryder.

“Bydd yr eitemau’n helpu i wneud y ward a’r holl fannau y mae’r plant yn mynd iddynt yn fwy cyfeillgar a hybu lles i bawb.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: