Mae Dunelm Caerfyrddin wedi cyhoeddi y bydd ei hymgyrch Nadolig Rhannu Llawenydd yn cefnogi ein Cronfa Dymuniadau am yr ail flwyddyn yn olynol ac yn dod â llawenydd Nadoligaidd i blant ledled gorllewin Cymru.
Mae Cronfa Dymuniadau yn creu atgofion hudolus i blant ac ieuenctid â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd ac yn peryglu bywyd, ynghyd â'u teuluoedd. Fe'i darperir gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a'i chefnogi gan Rygbi'r Scarlets.
Rhannu Llawenydd yw ymgyrch Nadolig cymunedol Dunelm sy'n rhoi cyfle i siopwyr hael brynu anrheg i berson mewn angen.
Mae coeden Nadolig Dunelm Caerfyrddin bellach yn y siop â 350 o dagiau Cronfa Dymuniadau arni. Mae pob tag yn darparu manylion anrheg a ofynnwyd amdani gan blentyn neu berson ifanc sy'n derbyn gofal lliniarol.
Gall siopwyr caredig a chydweithwyr fynd â thag adref i gyflawni'r cais cyn dychwelyd eu hanrheg i'r siop erbyn y 14eg o Ragfyr.
Gall y rhai sy'n methu mynd i mewn i'r siop gysylltu â Dunelm am gymorth pellach trwy Grŵp Facebook Cymunedol Dunelm Caerfyrddin: Dunelm Carmarthen’s Community Facebook Group.
Dywedodd Jo Cheswick o Dunelm Caerfyrddin: “Yma yn Dunelm yng Nghaerfyrddin y Nadolig hwn rydym yn cefnogi amrywiaeth o elusennau drwy geisio dosbarthu cymaint o roddion â phosibl i’r rhai sydd eu hangen fwyaf.”
Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Dunelm Caerfyrddin am ddewis cefnogi Cronfa Dymuniadau am yr ail flwyddyn.
“Rydym yn gwybod yn well nag unrhyw un pa mor hael a chefnogol yw ein cymunedau lleol yma yng ngorllewin Cymru, a’r llynedd roedd pobl yn dros ben o hael. Allwn ni ddim aros i ddosbarthu’r holl anrhegion caredig i’n cleifion ifanc y Nadolig hwn!”
Am ragor o wybodaeth am yr ymgyrch Rhannu Llawenydd ac i gymryd rhan, ewch i Dunelm Caerfyrddin neu dilynwch y ddolen hon: https://www.dunelm.com/info/delivering-joy