Yn y llun uchod: Lluniau o'r diwrnod hwyl i'r teulu.
Diolch i roddion hael, llwyddodd Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, i ariannu diwrnod hwyl i'r teulu yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog ar gyfer y plant, pobl ifanc a theuluoedd a gefnogir gan y Gronfa Ddymuniadau.
Mae Cronfa’r Ddymuniadau yn ymgyrch a gyflwynir gan Elusennau Iechyd Hywel Dda sy’n creu atgofion parhaol i blant a phobl ifanc â chyflyrau sy’n peryglu bywyd ac sy’n cyfyngu ar fywyd a’u teuluoedd.
Diolch i’r cyllid, mwynhaodd y teuluoedd ddiwrnod gwych, gan gymryd rhan mewn gweithgareddau fel sgïo, marchogaeth ceffylau, nofio, sledio a saethyddiaeth.
Dywedodd Rachel Brown, Arbenigwr Chwarae Gofal Lliniarol Pediatrig: “Rydym mor ddiolchgar am y rhoddion hael i’r Gronfa Ddymuniadau a’n galluogodd i drefnu diwrnod hwyl teuluol gwych arall i’r plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yr ydym yn eu cefnogi.
“Roedd y diwrnod yn anhygoel, roedd yn brofiad arbennig iawn i’r teuluoedd ac yn rhywbeth y byddant yn ei gofio am byth. Fy hoff ddyfyniad o’r diwrnod oedd gan fam a ddywedodd ‘Doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i’n gweld y diwrnod lle byddwn i’n ei wylio’n sgïo.’
“Mae’r diwrnodau teuluol hyn mor bwysig oherwydd eu bod yn cryfhau cysylltiadau ymlyniad, yn hwyluso cyfathrebu, yn darparu cefnogaeth emosiynol ac yn hyrwyddo lles teuluol.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaethau a staff.
I gael gwybod mwy am y Gronfa Dymuniadau, ewch i: https://hywelddahealthcharities.nhs.wales/campaigns/the-wish-fund/