Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad ceir Llambed yn codi dros £6,000 ar gyfer Uned Cemo Bronglais

Yn y llun uchod: Aelodau a theulu Clwb Moduro Llambed a'r Cylch.

 

Diolch i Sioe Ceir a Taith yn Llambed, mae £6,500 wedi ei godi ar gyfer Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Bronglais.

Trefnwyd y digwyddiad, a oedd yn cynnwys raffl ac ocsiwn, gan Anthea a Dai Jones gyda chymorth Clwb Moduro Llambed a’r Cylch.

Dywedodd Anthea: “Ar ddydd Sul 8 Hydref, cynhaliwyd digwyddiad arbennig iawn ar Gampws Prifysgol Llanbedr Pont Steffan a ddeilliodd o achos a oedd yn agos iawn at fy nghalon, roedd yn ddeng mlynedd ar hugain ers i fy mam gael gwellhad o ganser y fron.

“Roeddwn i a fy ngŵr, Dai, yn dathlu 30 mlynedd o briodas a phan briodon ni roedd fy mam yn cael cemotherapi ar gyfer canser y fron, felly pa ffordd well o ddathlu adferiad fy mam 30 mlynedd yn ddiweddarach na chodi arian at achosion teilwng.

“Roedd y sioe yn wych. Daeth cannoedd o bobl i fyny, roedd y gefnogaeth yn aruthrol. Roedd llawer o uchafbwyntiau ar y diwrnod, tua 150 o geir yn cyrraedd y campws: hen geir, ceir rali, ceir modern a rhai prin iawn!

“Uchafbwynt arall y diwrnod oedd y car Formula 1 oedd yn cael ei arddangos, diolch i haelioni JB Civil Engineering and Son. Roedd pawb wedi rhyfeddu bod car Formula 1 wedi ffeindio’i ffordd i Lambed.

“Cafwyd ocsiwn llwyddiannus iawn yn nwylo Andrew Morgan, Arwerthwyr Morgan a Davies, gyda channoedd o bobl yn dod i gefnogi. Roedd yr ocsiwn yn cynnwys llawer o eitemau a roddwyd yn garedig gan y gymuned leol megis taith awyren i dri o bobl o amgylch Bae Ceredigion, tocynnau rygbi, penwythnosau i ffwrdd, hamperi a thalebau, i enwi ond ychydig!

“Ar ôl y sioe, teithiodd tua 120 o geir drwy lonydd cul yr ardal i lawr i Glwb Rygbi Llandeilo am baned a chacen cyn teithio trwy gefn gwlad yn ôl i Lambed. Roedd y llwybr yn cynnwys rhai o’r ffyrdd sy’n cael eu defnyddio ar rali Bro Caron flynyddol y Clwb Moduro, ac i lawer roedd yn braf teithio drostynt yng ngolau dydd ac ar gyflymder mwy hamddenol.

“I gloi’r diwrnod gwych, cyhoeddwyd y raffl, gyda phrif wobr o £500 yn rhoddedig gan y Clwb Moduro ymhlith gwobrau gwych eraill a roddwyd gan fusnesau lleol a ffrindiau.

“Hoffem ddiolch yn arbennig i Glwb Moduro Llambed a’r Cylch am eu rhodd o dros £1,200, Mary o HSBC gyda rhodd o £500 ynghyd â Christine o Fanc Lloyds gyda rhodd arall o £500. O ganlyniad i’r digwyddiad codwyd swm enfawr o £13,000 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi ym Mronglais a Gofal y Fron Peony yn Ysbyty Tywysog Philip.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Anthea, Dai a phawb yng Nghlwb Moduro Llambed a’r Cylch am godi swm mor anhygoel.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: