Neidio i'r prif gynnwy

Diffoddwr Tân i herio Tri Chopa Cymru mewn cit llawn ar gyfer elusen GIG

Yn y llun uchod: Josh Herman.

 

Mae Josh Herman yn ymgymryd â her Tri Chopa Cymru mewn cit tân llawn gydag offer anadlu ar ei gefn.

Mae Josh yn dringo Pen y Fan, Cadair Idris a'r Wyddfa i godi arian ar gyfer Canolfan Iechyd Meddwl Sŵn Y Gwynt yn Rhydaman.

Bydd cymysgedd o bersonél gweithredol ac anweithredol o orsaf dân Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymuno â Josh ond ef fydd yr unig un a fydd yn cwblhau'r her mewn cit tân llawn.

Dywedodd Josh: “Byddaf yn cymryd rhan yn Her Tri Chopa Cymru ar y 6ed a’r 7fed o Fedi 2024 i godi arian ar gyfer y ganolfan iechyd meddwl yn Rhydaman.

“Mae’r gwasanaeth hwn yn agos iawn ataf yn bersonol, oherwydd fy mod wedi profi problemau iechyd meddwl yn y blynyddoedd diwethaf a dod yn agos at gymryd fy mywyd fy hun. Fe wnaethon nhw fy helpu trwy'r amseroedd gwaethaf a wynebais, ac ni allaf ddiolch digon iddynt am eu cefnogaeth a'u hanogaeth.

“Gan fod yn ddyn â phroblemau iechyd meddwl, mae’n anodd iawn bod yn agored, siarad amdano ac estyn allan i dderbyn y cymorth yr ydych ei eisiau a’i angen yn ddirfawr. Gofyn am help oedd y cam anoddaf a mwyaf a wnes i. Fodd bynnag, caniataodd Sŵn Y Gwynt i mi fynegi fy hun heb farnu. Gobeithio y bydd fy ngwaith codi arian yn helpu i godi ymwybyddiaeth ac annog dynion i godi llais. Mae yna lawer o stigma ynghylch iechyd meddwl dynion felly rydw i eisiau helpu i wneud gwahaniaeth i ddynion, eu teuluoedd a’u ffrindiau.”

Dywedodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Hoffem ddweud pob lwc enfawr i Josh gyda’i godwr arian ysbrydoledig. Rydym mor ddiolchgar am eich cefnogaeth.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Gallwch gefnogi'r codwr arian yma:

 https://www.justgiving.com/team/teammawwfirepeaks2024

Dilynwch ni: