Neidio i'r prif gynnwy

Deuddeg i ymgymryd â her abseilio i godi arian ar gyfer yr Uned Gofal Dwys

Yn y llun uchod: Jane Bacon.

 

Bydd staff o Uned Gofal Dwys Glangwili ac aelodau teulu a ffrindiau Jane Bacon yn abseilio 100 metr i lawr ochr y Tŵr Spinnaker yn Portsmouth er cof amdani.

Roedd Jane wedi bod yn brwydro yn erbyn canser ers 2021 ac aeth yn sâl yn ystod gwyliau gyda’i theulu. Derbyniwyd Jane i Ysbyty Glangwili ac yn anffodus bu farw oherwydd sepsis ym mis Medi 2022.

Bydd yr her abseilio yn digwydd ar 31 Awst 2024 mewn ymdrech i godi arian ar gyfer yr Uned Gofal Dwys newydd yn Ysbyty Glangwili.

Dywedodd Amanda Stephens, Prif Nyrs yn Uned Gofal Dwys Glangwili a chyfnither i Jane: “Ym mis Awst 2022, daeth fy modrybedd a chefndryd ar eu gwyliau blynyddol i Gymru. Roeddent yn teithio o Brighton a Gosport yn Lloegr ond yn ddiarwybod i ni, dyma fyddai tro olaf Jane.

“Aeth fy nghyfnither hyfryd Jane yn sâl yn ystod ei gwyliau ac aethpwyd â hi i Ysbyty Glangwili mewn ambiwlans lle cafodd ei derbyn. O fewn ychydig wythnosau, roedd iechyd Jane wedi gwaethygu ymhellach a chafodd ei throsglwyddo i'r Uned Gofal Dwys, fy ngweithle. Roedd Jane yn brwydro yn erbyn canser ac er iddi gael llawdriniaeth, ildiodd i sepsis a bu farw ym mis Medi 2022.

“Roedd y gofal a’r cymorth a gawsom fel teulu gan fy nghyd-weithwyr a ffrindiau yn aruthrol. Daeth yr Uned Gofal Dwys yn gartref i ni yn yr ychydig ddyddiau yr oedd Jane yno. Byddwn yn dragwyddol ddiolchgar am yr holl waith caled ac ymdrech a wnaed gan fy nghyd-weithwyr i sicrhau bod Jane yn gyfforddus a bod ei marwolaeth yn heddychlon ac yn urddasol.

“Mae deuddeg ohonom yn cymryd rhan yn yr her abseilio. Mae fy modryb, mam Jane, sy'n 73, yn cymryd rhan ochr yn ochr â'i merch arall, Lizzie, a'i hwyres, Phoebe. Tair cenhedlaeth yn cwblhau her anhygoel. Ac mae rhai ohonom ni, gan gynnwys fi fy hun, yn arbennig o ofnus o uchderau!”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, sef elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddweud pob lwc i bawb sy'n cymryd rhan yn yr her abseilio er cof am Jane.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sydd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod o ddiolchgar am bob rhodd a gawn.”

Gallwch gyfrannu at yr ymgyrch codi arian er cof am Jane yma: https://www.justgiving.com/team/janebacon

Dilynwch ni: