Yn y llun uchod: Staff gyda Megan Jones-Roberts.
Cynhaliwyd y cyngerdd yng Ngwesty Llety Parc yn Aberystwyth. Yn garedig iawn, derbyniodd Megan arian cyfatebol gan Santander sydd wedi’i gynnwys yn y cyfanswm.
“Roedd y cyngerdd yn hwyl. Mae gen i gynorthwywyr sy’n fy nghefnogi ar y noson gyda rafflau ac arwerthiannau a digonedd o bobl yn fodlon cyfrannu amryw o bethau i godi arian. Diolch i Anwen a Ffion a helpodd gyda’r tocynnau, y raffl a’r arwerthiant.”
Dywedodd Paige Denyer, Swyddog Cymorth Codi Arian: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Megan am ei hymdrech wych yn trefnu’r cyngerdd i godi arian ar gyfer Uned Ganser Leri.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”