Yn y llun uchod: Aelodau o gymuned Talgerreg gyda chynrychiolwyr elusennol.
Cymerodd grŵp o bobl o Dalgarreg sy'n gwneud gwaith da yn y gymuned, a elwir yn Criw Talgarreg, ran yn Hanner Marathon Caerdydd yn 2024 a chodi £12,600 ar gyfer tair elusen yng Nghymru.
Mae Criw Talgarreg yn grŵp o bobl o gymuned Talgarreg. Fe wnaethon nhw godi arian ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili, Maggie’s, ac Aren Cymru.
Dywedodd Allana Silvestri-Jones, aelod o Griw Talgarreg: “Yn ôl ym mis Hydref 2024, cymerodd grŵp ymroddedig o Dalgarreg, o’r enw Criw Talgarreg, ran yn Hanner Marathon Caerdydd mewn sioe bwerus ac ymroddedig o ysbryd cymunedol, gan godi swm anhygoel o £12,600 i dair elusen sy’n agos at ein calonnau.
“Roedd y ras yn hwyl ac yn heriol a llwyddon ni i godi £4,240 i bob elusen. Hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth, roedd yn anhygoel. Roedd y gymuned gyfan y tu ôl i ni’r holl ffordd.”
Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Diolch yn fawr iawn i bawb yng Nghriw Talgerrag a gymerodd ran yn Hanner Marathon Caerdydd y llynedd. Fe godoch chi swm anhygoel i’r Uned Ddydd Cemotherapi ac elusennau arbennig eraill. Mae wedi bod yn wych cael eich cefnogaeth.
“Mae haelioni ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”