Mae ein hymgyrch Cronfa Ddymuniadau yn creu atgofion hudolus i blant a phobl ifanc a gefnogir gan y tîm gofal lliniarol pediatrig a’u teuluoedd. Buom yn siarad â Cai (yn y llun) a’i fam Vicki ynglŷn â pham mae’r Gronfa Ddymuniadau yn golygu cymaint iddyn nhw.
C: Sut mae'r Gronfa Ddymuniad wedi gwneud gwahaniaeth i chi?
Cai: Rhoddodd y Gronfa Ddymuniadau ddiwrnod allan i mi yn y Gerddi Botaneg a chanolfan yr Adar Ysglyfaethus. Fe wnes i fwynhau oherwydd ei fod mor hwyl a mynediad agored iawn. Roedd yn braf cael pawb yn gwneud pethau gyda'i gilydd.
Vicki: Mae’r Gronfa Ddymuniadau wedi ariannu ychydig o ddiwrnodau allan i ni, mae wedi ariannu’r daith i’r Gerddi Botaneg a hefyd taith i weld Elf yn fyw, ac mae Cai wedi gwneud anrhegion mewn gweithdai crefft.
Roedd y dyddiau allan yn wych, yn dda iawn i'r teulu oherwydd daeth fy chwaer a'm nith hefyd, a oedd yn hyfryd iawn. Nid ydych chi'n cael gwneud pethau fel hyn yn aml iawn!
C: Oedd hi'n dda cyfarfod â theuluoedd eraill?
Cai: Mae’n hwyl gweld pobl eraill a theuluoedd eraill. Mae o fudd i bobl drwy eu galluogi i greu cyfeillgarwch newydd.
Vicki: Roedd yn hyfryd iawn gallu cyfarfod â phobl eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg a gallu gwneud pethau sy'n hygyrch i bawb ac nid dim ond un plentyn neu'r llall.
C: Pam ydych chi'n meddwl bod y Gronfa Ddymuniadau mor bwysig?
Vicki: Oherwydd nid yw pobl fel arfer yn cael y cyfleoedd hyn. Mae teuluoedd wedi cael digon o straen ariannol o ddydd i ddydd fel ag y mae. Y rhan fwyaf o’r amser ni allwn fforddio talu am ddiwrnodau allan i’r teulu, sef pan fyddwch yn gwneud atgofion mor arbennig. Ac mae cael cymorth wrth law gan y tîm gofal lliniarol pediatrig yn golygu y gall teuluoedd gymryd rhan mewn gweithgareddau y gallent fod wedi meddwl nad oedd yn bosibl.
Cai: Mae’r Gronfa Ddymuniadau mor bwysig oherwydd mae’n helpu pobl yn ardal Hywel Dda i wneud pethau na fyddent fel arfer yn gallu eu gwneud. Mae'n wych i bobl sydd angen rhywfaint o gymorth i fyw eu bywyd ychydig yn well.
C: Beth yw eich neges i rywun sy’n ystyried cefnogi’r Gronfa Ddymuniadau?
Cai: Byddwn yn ei argymell gan eu bod yn helpu cymaint o deuluoedd gwahanol, ac mae’r hyn maen nhw’n ei wneud yn wirioneddol anhygoel! Maent yn helpu teuluoedd i wneud gweithgareddau a fyddai'n anodd iawn iddynt eu gwneud yn normal. Byddai'n anhygoel pe gallent gyfrannu a chodi ymwybyddiaeth o'r elusen wych hon.
Vicki: Fy neges yw gwnewch e! Mae wir yn helpu pobl ac mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Mae hefyd yn braf gweld y manteision a sut mae wedi helpu’r teuluoedd, mae’n deimlad hyfryd!
I ddarganfod mwy am y Gronfa Ddymuniadau a sut i gefnogi’r ymgyrch, ewch i: Cronfa Ddymuniadau