Neidio i'r prif gynnwy

Côr roc a phop yn codi dros £4,000 i Ysbyty Tywysog Philip

Yn y llun uchod: The Phil Harmonics gyda Diane Henry-Thomas, Swyddog Cefnogi Codi Arian.

 

Mae Côr Roc a Phop Phil Harmonics wedi codi swm gwych o £2,000 ar gyfer yr Uned Gofal y Fron a £2,000 ar gyfer Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Tywysog Philip.

Mae’r Phil Harmonics yn gôr sy’n codi arian at achosion da, ac maen nhw wedi codi dros £60,000 yn y naw mlynedd diwethaf.

Dywedodd Sarah Mair Richards, Sylfaenydd ac Arweinydd The Phil Harmonics: “Cynhaliom Gala Elusennol yng Ngwesty’r Diplomat yn Llanelli ar 6ed Gorffennaf 2024 gyda dros 250 o westeion yn bresennol.

 “Roedd yn noson lawen gydag adloniant a sioe gan The Phillies. Cefnogodd busnesau lleol ni yn hael gyda gwobrau raffl gwych. Gweithiodd y Phillies i gyd yn galed i'w wneud yn llwyddiant ysgubol. Roedd y noson yn gymaint o hwyl gyda llawer o gyfranogiad gan y gynulleidfa!

“Rydym yn dewis elusennau sy’n agos at ein calonnau ac yn lleol bob blwyddyn. Rydym yn falch iawn o gefnogi Elusennau Iechyd Hywel Dda eto. Diolch i’r holl fusnesau lleol a gyfrannodd wobrau raffl a’r holl westeion a ddaeth draw.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Diolch yn fawr iawn i’r Phil Harmonics am ein cefnogi gyda’ch Gala Elusennol. Bydd eich rhodd yn gwneud gwahaniaeth mawr i gleifion yn Ysbyty Tywysog Philip.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: