Yn y llun uchod: Llun 1af: Cerith Coates. Ail lun: Cerith gyda staff yr Uned Ddydd Cemotherapi.
Bydd ffrindiau, teulu a chydweithwyr Cerith Coates yn ymgymryd â Her Tair Copa Cymru i godi arian ar gyfer Ward 7 ac Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip.
Mae ffrindiau, teulu a chydweithwyr Cerith yn ymgymryd â'r her ar 16 Awst 2025 fel diolch am y gofal gwych y mae wedi bod yn ei dderbyn ar Ward 7 ac yn yr uned cemotherapi.
Dywedodd Cerith: “Bydd fy ffrindiau, teulu a chydweithwyr gwych yn dechrau'r her yn Yr Wyddfa, gan wneud eu ffordd i'r ail gopa, Cadair Idris, ac yna byddant yn gorffen yr her ym Mhen Y Fan.
“Cefais ddiagnosis o ganser y coluddyn ym mis Rhagfyr 2024. Cefais lawdriniaeth o fewn wythnos i'r diagnosis a chefais ofal gan dîm anhygoel o feddygon, llawfeddygon a nyrsys yn Ward 7 yn Ysbyty Tywysog Phillip.
“Ym mis Ionawr, dywedwyd wrthyf gan fy oncolegydd fod y canser wedi lledu ac nad oedd modd ei wella ond ei fod yn drinadwy ac yn hawdd ei reoli. Ers hynny, rwyf wedi bod yn derbyn cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Phillip sy’n gweithio’n dda. Rwyf mor ddiolchgar am bopeth maen nhw wedi’i wneud i mi, ac roeddwn i eisiau’r cyfle i godi arian iddyn nhw fel fy ffordd o ddweud diolch.
“Rydym yn gobeithio codi o leiaf £800 ac hyd yn hyn, rydym wedi codi £775 mewn llai na 24 awr.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddymuno pob lwc i ffrindiau, teulu a chydweithwyr Cerith gyda’u Her Tair Copa Cymru a diolch yn fawr iawn i Cerith am ysbrydoli digwyddiad codi arian mor wych.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gyfrannu at y digwyddiad codi arian, ewch i: https://www.justgiving.com/page/cerith-coates78
Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaeth a staff.