Neidio i'r prif gynnwy

Codwr arian yn rhedeg tair hanner marathon ar gyfer elusen y GIG

Yn y llun chod gwelir: Kelly Morris a'i chi.

 

Mae Kelly Morris wedi herio ei hun i redeg tair hanner marathon i godi arian ar gyfer Gwasanaethau Canser ac adran Damweiniau ac Achosion Brys (A&E) Ysbyty Glangwili.

Mae Kelly eisoes wedi cwblhau Hanner MarathonCymru ym Mhen-bre ar Fawrth 16eg ac mae hi ar fin cymryd rhan yn Hanner Marathon Cymru ym Mhenwythnos y Cwrs Hir ar Fehefin 28ain a Hanner Marathon Caerdydd ar Hydref 5ed.

Dywedodd Kelly: “Rwy’n rhedeg i godi arian ar gyfer achos sy’n agos at fy nghalon. Yn anffodus, collodd fy mam-yng-nghyfraith ei brwydr ond derbyniodd ofal rhagorol gan y tîm cemotherapi yng Nglangwili.

“Rwy’n teimlo fy mod i’n adnabod gormod o bobl sy’n cael triniaeth ar hyn o bryd neu sydd wedi ymladd mor galed â phosibl ac yn anffodus nid ydynt gyda ni mwyach, ond mae gen i ffrindiau a theulu sydd wedi derbyn triniaeth ac wedi trechu canser. Rwyf eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i elusen sy’n gwneud gwahaniaeth mor fawr i bobl mewn cyfnodau mor anodd.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Pob lwc i Kelly gyda’i hanner marathonau sy’n weddill. Rydym mor ddiolchgar am eich cefnogaeth.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: