Neidio i'r prif gynnwy

Codwr arian yn rhedeg 10k Llanelli ar gyfer Uned Gofal y Fron

Yn y llun uchod (o'r chwith i'r dde): Manju Thomas, nyrs arbenigol Gofal y Fron; Wendy Edwards a Saira Khawaja, Llawfeddyg Oncoplastig y Fron Ymgynghorol.

 

Wendy Edwards a gymerodd ran yn y ras 10k Llanelli a chodwyd £604 ar gyfer Uned Gofal y Fron yn Ysbyty Tywysog Philip.

Dywedodd Wendy: “Roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth bach yn ol am y driniaeth anhygoel ges i ar gyfer canser y fron y llynedd.

“Roedd yn llawer o hwyl, ac yn bwysicaf oll yn werth chweil. Roeddwn i mor hapus a gwerthfawrogol i dderbyn cymaint o gefnogaeth gan deulu a ffrindiau wrth godi arian at achos mor wych.”

Dywedodd Saira Khawaja, Llawfeddyg Oncoplastig y Fron Ymgynghorol: “Hoffwn ddiolch i Wendy Edwards am gymryd yr amser a’r ymdrech i godi arian ar gyfer uned gofal y fron.

“Gyda chymorth y gymuned a’u gwaith codi arian, byddwn yn parhau i ddyfalbarhau gyda’r gofal gorau posib i'n cleifion gan ddefnyddio’r offer diweddaraf.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr i Wendy am gymryd rhan yn Hanner Marathon Llanelli a chodi swm mor wych.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: