Yn y llun uchod (Ch-D): Angharad Janes, Angharad Smiriglia, Jo Honey, Dave Owen a'i ferch, Erin Owen, Kelly Brown a Catrin Davies.
Cymerodd hyfforddwr gôl-geidwad Clwb Pêl-droed Aberystwyth Dave Owen ran yn y daith seiclo 112 milltir ym Mhenwythnos Cwrs Hir Cymru yn Ninbych-y-pysgod ar 22 Mehefin 2024 a chodwyd swm gwych o £3,230 ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU) yn Ysbyty Glangwili.
Treuliodd merch ieuengaf Dave, Erin, bron i fis yn yr SCBU pan gafodd ei geni, gan gynnwys pythefnos mewn crud cynnal, a derbyniodd ofal gwych gan staff y GIG.
Dywedodd Dave, o Lanrhystud: “Byddwn yn ddiolchgar am byth am y gofal a’r gefnogaeth a gafodd Erin yn ystod y mis a dreuliodd yn SCBU, yn ogystal â’r tosturi a ddangosodd pawb i Lowri, Eleri a minnau mewn cyfnod hynod o anodd.
“Er na fyddwn ni byth yn gallu dangos yn llawn pa mor ddiolchgar ydyn ni am bopeth maen nhw wedi’i wneud i’n teulu, roeddwn i eisiau ceisio rhoi rhywbeth yn ôl ers peth amser. Mae Erin wedi tyfu i fod yn ferch fach hapus, chwareus a gofalgar, ac er y gall fod rhai llwybrau anodd o’i blaen fe fydden nhw’n llawer anoddach oni bai am ofal a chefnogaeth SCBU.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Dave am gymryd rhan yn y daith seiclo epig ym Mhenwythnos Cwrs Hir 2024 i godi arian ar gyfer yr uned.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”