Yn y llun uchod: Mike Hirst a'i dîm yn dathlu cyrraedd y copa.
Mae Mike yn byw yn Aberystwyth, yn gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae hefyd yn Hyfforddwr Gwobr Dug Caeredin i Teithiau I.C.Y.
Cymerodd y grŵp ran yn yr alldaith ar 4ydd i 11eg Hydref 2024 gan godi swm gwych o £1,250 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Bronglais.
Dywedodd Mike: “Heb os nac oni bai, hwn oedd y peth mwyaf heriol i mi ei wneud erioed. Roedd yn galed yn gorfforol ac yn feddyliol ar adegau. Roedd y dirwedd a'r amodau y tu allan i'm hardal gysur. Roedd yr uchder a'r tir ynghyd â'r amrywiaeth eang o dymheredd yn gwneud y dringo'n heriol.
“Teithiais gyda grŵp o saith ffrind o bob rhan o’r DU a chefais gymorth gan ddau Dywysydd Mynydd Berber lleol sy’n un o ofynion Llywodraeth Moroco. Yn ystod ein hamser yn y mynyddoedd roeddem wedi ein lleoli mewn Lloches Mynydd a adeiladwyd gan Gymdeithas Alpiniste Ffrainc. Roedd cefnogaeth y bobl y bûm yn dringo gyda nhw, a’r tywyswyr, wedi fy helpu i gyrraedd fy nod er gwaethaf amau fy ffitrwydd a’m galluoedd ar sawl achlysur.
“Fe wnaethon ni ddewis Hydref ar gyfer yr ymgais gan fod gwres eithafol yr haf ac oerfel ac eira’r gaeaf yn gwneud ymdrechion hyd yn oed yn fwy heriol, felly mis Hydref roddodd y siawns gorau o lwyddiant i ni.
“Yn y pen draw fe wnaethom gyrraedd pob un o’r pedwar copa 4,000m yn llwyddiannus. Mae gan bob un o'r mynyddoedd hyn uchder tua phedair gwaith uchder mynyddoedd talaf y DU.
“Codais arian ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Bronglais yn dilyn sgwrs gydag aelod o’r teulu oedd wedi derbyn triniaeth yno. Nid oedd ganddo ond canmoliaeth i'r staff a'r driniaeth yno. Yn anffodus, bu farw bythefnos cyn yr her.”
Dywedodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Mike a’i dîm am gymryd rhan yn yr her aruthrol hon i godi arian ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”