Yn y llun uchod: Sean Thomas gyda'i wraig, Emma a'u dwy ferch, Ffion a Cerys.
Mae Sean Thomas, sy'n dod o Aberdaugleddau yn Sir Benfro, yn cystadlu yn Ironman Cymru ar 21 Medi i godi arian ar gyfer Gwasanaeth Diabetes Pediatrig gorllewin Cymru.
Mae Sean yn cymryd rhan yn y triathlon gyda’i frawd, Liam, i ddiolch i’r Gwasanaeth Diabetes Pediatrig am ofalu am ei ferch, Cerys, a gafodd ddiagnosis o ddiabetes math 1 yn ddwy oed.
Dywedodd Sean: “Ym mis Rhagfyr 2022, cafodd fy merch Cerys ddiagnosis o ddiabetes math 1 pan oedd hi ond yn ddwy oed.
“Roedd yn gyfnod trawmatig ac ofnus, ond fe wnaeth ymateb i'r her fel pencampwr. Yn ystod ein harhosiad yn yr ysbyty ac wedi hynny, mae Tîm Diabetes Pediatrig gorllewin Cymru wedi bod yn hollol anhygoel yn y gofal a’r gefnogaeth maen nhw wedi’i dangos i Cerys a gweddill ein teulu.
“Byddem wrth ein bodd yn ceisio codi hyd yn oed mwy o arian i’w roi i’w tîm fel y gallant barhau i ddarparu gofal a chefnogaeth o’r radd flaenaf i blant eraill sy’n cael diagnosis o ddiabetes math 1 yng ngorllewin Cymru. Byddai unrhyw beth y gallwch ei roi yn cael ei werthfawrogi’n fawr, diolch yn fawr!”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddymuno pob lwc i Sean a Liam gyda’u her Ironman!
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Mae Sean eisoes wedi rhagori ar ei darged codi arian o £1,000 ac mae’n gobeithio codi mwy ar gyfer y gwasanaeth gwych. Gallwch gyfrannu yma: https://www.justgiving.com/page/sean-thomas-7?utm_medium=FR&utm_source=CL