Yn y llun uchod: Katie Hancock, Swyddog Codi Arian a Reg Mwandiambira, Rheolwr Achos Comisiynu Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu.
Mae’r Gronfa Ddymuniadau yn ymgyrch Elusennau Iechyd Hywel Dda sy’n creu atgofion i blant a phobl ifanc â chyflyrau sy’n bygwth bywyd ac sy’n cyfyngu ar fywyd a’u teuluoedd.
Dywedodd Reg, Rheolwr Achos Comisiynu Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rwy’n ddiolchgar iawn i’r holl bobl garedig a gyfrannodd tuag at y gwaith codi arian. Fy ngobaith yw bod y Gronfa Ddymuniadau yn cael sylw teilwng ac nad yw’n gorffen yma.
“Er fy mod yn ddiolchgar iawn, gwn fod ein rhan yn hyn yn ddibwys o’i gymharu a gwaith caled parhaus ac ymroddiad y gweithwyr proffesiynol amrywiol ar draws gwasanaethau gofal lliniarol plant a phediatrig. Yn bennaf oll, o’i gymharu a unigolion gwydn a’u teuluoedd ysbrydoledig, cadw’n bositif yn wyneb heriau annirnadwy ond real iawn.”
Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian Sir Benfro yn Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Hoffem ddweud da iawn a diolch i Reg am gymryd rhan yn y Penwythnos Cwrs Hir Sportive i godi swm mor wych ar gyfer y Gronfa Ddymuniadau
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Dysgwch fwy am y Gronfa Ddymuniadau yma: https://elusennauiechydbihyweldda.gig.cymru/ymgyrchoedd/cronfa-dymuniad/