Yn y llun uchod: Aelodau Clwb Inner Wheel Caerfyrddin gyda Claire Rumble, Swyddog Codi Arian a Stephen Earles.
Mae Clwb Inner Wheel Caerfyrddin wedi codi £500 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili.
Mae Inner Wheel yn gymdeithas ryngwladol o fenywod sy'n mwynhau helpu eraill trwy glybiau lleol, ardaloedd a chorff llywodraethu.
Ffurfiwyd Inner Wheel Caerfyrddin ym 1938 ac mae ganddyn nhw un aelod ymroddedig iawn sydd wedi bod yn rhan o'r clwb ers 50 mlynedd. Maen nhw'n cyfarfod unwaith y mis, yn codi arian ar gyfer amrywiol elusennau lleol ac yn rhannu cyfeillgarwch.
Dywedodd Brenda Scourfield, Llywydd Clwb Inner Wheel Caerfyrddin: “Y llynedd, Carwen Earles oedd Llywydd ond yn anffodus, aeth Carwen yn sâl ac yn anffodus bu farw ym mis Ionawr 2025. Roedd Carwen wedi dewis yr Uned Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili fel ei helusen, felly fe wnaethon ni barhau â'i dymuniad.
“Fe wnaethon ni drefnu te prynhawn lle roedd gŵr Carwen, Stephen, a'i phlant Gethin ac Angharad yn bresennol. Cawson ni fore coffi a rhai rafflau, felly ar ddiwedd blwyddyn Inner Wheel, roedden ni'n gallu cyflwyno siec o £500 i'r uned.”
Dywedodd Jessica Michael, Prif Nyrs: “Ar ran y staff a’r cleifion yn yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili, hoffwn ddiolch i Glwb Inner Wheel Caerfyrddin am roi £500.
“Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella’r amgylchedd a gwella’r ffordd rydym yn gofalu am gleifion yn yr uned. Byddwch yn dawel eich meddwl y bydd yr arian hwn yn mynd tuag at y gwelliant hwn. Diolch.”
Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Diolch yn fawr iawn i Glwb Inner Wheel Caerfyrddin am roi £500 yn garedig i’r Uned Ddydd Cemotherapi.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”