Mae CFfI Sir Gâr wedi codi £4,450 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili. Trefnodd y CFfI amrywiaeth o ddigwyddiadau codi arian dros y flwyddyn ddiwethaf i godi'r arian.
Dywedodd Caryl Jones, Cadeirydd C.Ff.I Sir Gâr: “Dechreusom y flwyddyn gyda taith tractorau Nadolig. Daeth dros 60 o dractorau a cherbydau i gefnogi'r noson, gwnaeth pawb ymdrech wych yn addurno eu cerbydau mewn goleuadau Nadolig a thinsel. Cynhaliais Wasanaeth Carolau Nadolig y Cadeirydd yng Nghapel Llanddarog hefyd. Daeth aelodau a ffrindiau'r mudiad o bob cwr o'r sir, ac fe wnaethom ni i gyd fwynhau canu Carolau gyda'n gilydd.
“Gorffennom y flwyddyn gyda'n her Tenyfan ar yr 11eg a'r 12fed o Ebrill. Yr her oedd cerdded Pen y Fan ym Mannau Brycheiniog 10 gwaith mewn 24 awr, ac rwy'n falch o ddweud ein bod wedi llwyddo i gyflawni'r her mewn 21 awr. Cawsom gefnogaeth anhygoel yn ystod y dydd, gyda dros 80 o aelodau a ffrindiau'r mudiad yn dod i'n cefnogi yn ystod y dydd a rhai yn cerdded nifer o weithiau gyda ni ar y mynydd.
“Penderfynais ddewis Uned Dydd Cemotherapi fel fy elusen ddewisol eleni oherwydd bod aelod agos o’m teulu yn derbyn triniaeth yn yr uned yn ogystal ag un o fy ffrindiau gorau, Elin Ludgate.
“Dim ond 30 oed oedd Elin pan gafodd ei diagnosis ac yn anffodus, collodd ei brwydr i ganser ym mis Mawrth 2025. Roedd Elin yn aelod gwych, uchel ei pharch o CFfI Sir Gaerfyrddin. Cymerodd nifer o rolau ar lefel clwb a sir ac roedd yn aelod gwerthfawr o’n pwyllgorau, mae colled fawr ar ei hôl. Mae’n wych rhoi’r arian hwn i’r Uned Dydd Cemotherapi i helpu i sicrhau y gall yr holl waith da sy’n digwydd yno barhau, roedd yn bwysig i mi fod yr arian yn aros yn lleol.
“Hoffem ddiolch i’r elusen am eu cefnogaeth yn ystod ein digwyddiadau, ein ffrindiau a’n teuluoedd a holl aelodau a ffrindiau CFfI Sir Gaerfyrddin sydd wedi ein cefnogi yn ystod y flwyddyn.”
Dywedodd Jessica Michael, Prif Nyrs: “Ar ran y staff a’r cleifion yn yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili, hoffwn ddiolch i C.Ff.I Sir Gâr am eich holl ymdrechion codi arian a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, gan arwain at rodd wych o £4,550.
“Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella’r amgylchedd a gwella’r ffordd rydym yn gofalu am gleifion yn yr uned. Byddwch yn dawel eich meddwl y bydd yr arian hwn yn mynd tuag at y gwelliant hwn. Diolch.”
Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Mae’n wych gweld y gymuned leol yn codi arian ar gyfer Uned mor wych. Diolch yn fawr iawn i C.Ff.I Sir Gâr am gefnogi ein helusen.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”