Yn y llun uchod gwelir: Clwb Ffermwyr Ifanc Cynwyl Elfed.
Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Cynwyl Elfed wedi codi £1,250 ar gyfer y Gronfa Ddymuniadau.
Mae’r Gronfa Ddymuniadau yn ymgyrch a gyflwynir gan Elusennau Iechyd Hywel Dda sy’n creu atgofion parhaol i blant a phobl ifanc â chyflyrau sy’n peryglu bywyd ac yn cyfyngu ar fywyd a’u teuluoedd.
Trefnodd CFfI Cynwyl Elfed amrywiaeth o ddigwyddiadau codi arian dros y ddwy flynedd ddiwethaf i godi’r arian.
Dywedodd Lisa Cockroft, Aelod o CFfI Cynwyl Elfed ac Asesydd Nyrs Arweiniol Gofal Parhaus Plant ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Cynwyl Elfed yn glwb bach ond nerthol sy’n ymfalchïo mewn bod yn ddwyieithog ac yn gynhwysol.
“Mae’r CFfI yn darparu cyfleoedd i’w aelodau ddatblygu sgiliau, gweithio gyda’u cymunedau lleol, cymryd rhan mewn amrywiol gystadlaethau a mwynhau bywyd cymdeithasol deinamig.
“Mae’r clwb wedi cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau codi arian. Er enghraifft, canu carolau Nadolig o amgylch y pentrefi lleol, noson bingo, Diolchgarwch y Cynhaeaf, rafflau, a noson cawl a chwis.”
Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Mae’n wych gweld y gymuned leol yn cefnogi achos mor wych â’r Gronfa Ddymuniadau. Diolch yn fawr iawn i Glwb Ffermwyr Ifanc Cynwyl Elfed am gefnogi’r Gronfa Ddymuniadau.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”