Mae grŵp o bobl ifanc o Sir Gaerfyrddin wedi codi dros £9,000 ar gyfer Ysbyty Glangwili, drwy gyfres o ddigwyddiadau.
Cododd Clwb Ffermwyr Ifanc Llanllwni £8,490.46 ar gyfer Uned Gofal Arbennig Babanod yr ysbyty drwy eu sioe amaethyddol flynyddol, digwyddiad sy'n dod â'r gymuned leol at ei gilydd ac yn codi arian ar gyfer elusen ddewisol.
"Mae gan y sioe rywbeth at ddant pawb, o babell cynnyrch gyda llysiau, coginio, crefft a blodau i ddefaid, gwartheg, sioe gŵn a gweithgareddau i'r plant yn ogystal ag adloniant gyda'r nos," meddai'r trefnwyr.
Ac roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol.
"Cawsom ddiwrnod llwyddiannus iawn, roedd yr haul yn tywynnu drwy'r amser a daeth y gymuned gyfan at ei gilydd am ddiwrnod o hwyl."
Mae codi arian ar flaen y gad yng ngweithgareddau'r CFfI, ac mae eu helusen ddewisol yn aml yn bwysig iawn i aelodau.
"Ein helusen ddewisol ar gyfer Sioe CFfI Llanllwni 2025 oedd yr Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Glangwili, gan fod Elain Grug, merch i ddau o'n haelodau Sara ac Ieus, wedi treulio mis cyntaf ei bywyd yn yr uned ar ôl iddi gael ei geni dros wyth wythnos yn gynnar.
"Rydym yn ddiolchgar am byth am y gofal a gafodd Elain a'i theulu yn ystod yr amseroedd anodd hyn."
Ym mis Rhagfyr, cynhaliodd CFfI ddigwyddiad canu carolau, lle codwyd dros £900 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili.
"Digwyddiad blynyddol arall sydd gennym fel clwb yw canu carolau o gwmpas ein cyffiniau lleol i gael ein cymuned gyfan i ddathlu hwyl y Nadolig. Bob blwyddyn rydyn ni'n rhoi hanner yr elw a godir i elusen ddewisol."
Unwaith eto, llwyddodd y mudiad ieuenctid i godi swm sylweddol ar gyfer gwasanaethau Hywel Dda.
"Cododd ein digwyddiad canu carolau blynyddol £922.27 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi. Roedd yr holl aelodau wedi mwynhau mynd o gwmpas yr ardal leol i gael y gymuned gyfan i fwynhau hwyl y Nadolig," ychwanegodd y trefnwyr. "Mae aelodau o'r gymuned, yn enwedig yr henoed, bob amser yn ddiolchgar i'n gweld ni wrth eu drws.
"Rydyn ni'n ceisio gwneud codi arian mor hwyl â phosibl i'n holl aelodau. Roedd y ddau weithgaredd yn llwyddiant mawr."
Dywedodd Kelly Brown, Arweinydd Allgymorth Newyddenedigol ar gyfer SCBU:
“Hoffem fynegi ein diolch o galon am eich haelioni anhygoel wrth godi arian ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.Rydym yn wirioneddol ddiolchgar eich bod wedi dewis cefnogi ein huned, bydd eich caredigrwydd yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i’r babanod a’r teuluoedd rydym yn gofalu amdanynt.
“Mae ymdrechion codi arian fel eich un chi yn hanfodol i’n helpu i wella ansawdd gofal a’r profiad cyffredinol i’r rhai sydd angen ein cymorth yn ystod cyfnod mor dyngedfennol. Diolch i’ch rhodd, rydym yn gobeithio prynu darn arbenigol o offer sy’n ein galluogi i oeri babanod sy’n cael eu geni ag anafiadau i’r ymennydd – ymyriad sy’n achub bywyd a all wella canlyniadau’n sylweddol a rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i’r rhai bach hyn.
"Bydd eich cefnogaeth yn cael effaith barhaol, ac rydym yn ddiolchgar iawn am eich ymrwymiad i'n helpu i ddarparu'r safon uchaf o ofal nawr ac yn y dyfodol."
A dywedodd Prif Nyrs yr Uned Ddydd Cemotherapi, Jessica Michael:
"Ar ran y staff a'r cleifion yn yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili, hoffwn ddiolch i chi am eich ymdrechion codi arian a arweiniodd at rodd hael iawn o £922.27.
"Rydym bob amser yn edrych ar ffyrdd o wella'r amgylchedd a gwella'r ffordd rydym yn gofalu am gleifion yn yr Uned Ddydd Cemotherapi. Byddwch yn sicr y bydd yr arian hwn yn mynd tuag at y gwelliant hwn.
"Diolch yn fawr."