Neidio i'r prif gynnwy

Brawd a chwaer yn paratoi i gerdded o Gaerdydd i Ddrefach ar gyfer elusen

Yn y llun uchod: Lowri a Aled.

 

Mae'r brawd a chwaer Lowri ac Aled Thomas yn bwriadu cerdded o Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd i Ddrefach er elusen.

Mae Lowri ac Aled hefyd wedi trefnu gig elusennol a gynhelir ar 30 Awst yn Neuadd Gwendraeth Drefach. Bydd y band lleol Dros Dro yn perfformio a bydd ocsiwn elusennol hefyd.

Bydd rhan o'r elw yn mynd tuag at yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip.

Dywedodd Lowri: “Bydd fy mrawd, Aled, a minnau’n cymryd rhan mewn taith gerdded noddedig rhwng Awst 28 – 30 i godi ymwybyddiaeth o Myeloma, cyflwr sydd wedi effeithio’n fawr ar ein teulu.

“Bydd ein llwybr yn mynd â ni o Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd i Ddrefach, gan basio trwy Ysbyty Singleton yn Abertawe ac Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli. Mae’r siwrnai hon yn adlewyrchu’r llwybr a gymerodd ein Mam, o gynaeafu ei bôn-gelloedd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, i dderbyn ei thrawsblaniad bôn-gelloedd yn Singleton, a gofal parhaus yn yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip.

“Rydym yn codi arian ar gyfer tair elusen anhygoel: Myeloma UK, Elusennau Iechyd Hywel Dda a Chronfa Myeloma Lewcemia Lymffoma Cymru. Mae’r sefydliadau hyn wedi cefnogi Mam gyda gofal rhagorol, ac maent yn parhau i helpu cymaint o bobl eraill.

“Mae’r daith hon yn hynod o agos at ein calonnau. Rydym yn gobeithio codi ymwybyddiaeth ac arian hanfodol i gefnogi eraill y mae Myeloma yn effeithio arnynt. Diolch am eich caredigrwydd, eich cefnogaeth, ac am ein helpu i roi yn ôl i’r rhai sydd wedi rhoi cymaint.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddweud diolch enfawr a phob lwc i Lowri ac Aled am ymgymryd â’r her hon.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Gallwch gyfrannu at y codwr arian yma: https://www.gofundme.com/f/milltiroedd-dros-myeloma

Dilynwch ni: