Bydd yr adnoddau yn cefnogi hunanreolaeth cleifion. Maent yn cynnwys posteri, casys cario, siartiau, taflenni, dyddiaduron glwcos gwaed, dyddiaduron bwyd, delweddwyr, cyfrifydd, modelau bwyd, llyfrau cyfri carbohydradau a chalorïau, a thybiau plastig ar gyfer storio a threfnu.
“Bydd mynediad i’r llyfrau Carbs & Cals yn helpu ein cleifion i wella eu rheolaeth o ddiabetes yn ystod ac ar ôl ein sesiynau addysgol. Mae cyfrif carbohydradau yn ffordd effeithiol o reoli lefelau glwcos yn y gwaed wrth fyw gyda diabetes math 1. Mae’n golygu y gellir paru’r inswlin yn unigol â faint o garbohydrad sy’n cael ei fwyta gan ganiatáu rhyddid a hyblygrwydd i’r unigolyn hwnnw.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”