Neidio i'r prif gynnwy

Adnoddau chwarae wedi'u hariannu ar gyfer ward plant Glangwili

Yn y llun uchod: Staff o Ward Cilgerran gyda'r adnoddau chwarae.

 

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu adnoddau chwarae gwerth dros £1,000 ar gyfer Ward Cilgerran yn Ysbyty Glangwili.

Mae elusen y GIG wedi ariannu eitemau fel Play-Doh, paent, celf ffoil, masgiau anifeiliaid a chreonau.

Dywedodd Karen Thomas, Pennaeth Chwarae Therapiwtig: “Rydym yn hynod ddiolchgar am y rhoddion hael gan ein cymunedau lleol i Elusennau Iechyd Hywel Dda. Unwaith eto, maent wedi darparu asedau amhrisiadwy i Ward Cilgerran.

“Bydd yr adnoddau chwarae newydd yn helpu’r tîm chwarae therapiwtig i weithio’n fwy effeithiol a chanolbwyntio eu hamser ar y plant a’r bobl ifanc (PPI) yn ein gofal. Mae gallu chwarae tra yn yr ysbyty yn golygu y gall y PPI barhau ag agwedd ar eu bywyd arferol.

“Mae chwarae’n gyfarwydd ac yn galonogol, dyna sut mae PPI yn gwneud synnwyr o’r byd o’u cwmpas, mae’n eu helpu i ddysgu a datblygu a theimlo’n llai pryderus am eu hymweliad â’r ysbyty.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaethau a staff.

Dilynwch ni: